ieuenctid
Cynrychiolwyr Ieuenctid
Hoffai Cyngor Cymuned Cwmllynfell benodi dau berson ifanc i ddod i gyfarfodydd misol y cyngor. Byddai'r penodiad am 12 mis. Diben cael Cynrychiolwyr Ieuenctid yw rhoi cyfle i bobl ifanc fod yn rhan o gynllunio gwasanaethau lleol, yn enwedig gwasanaethau i bobl ifanc. Byddai Cynrychiolwyr Ieuenctid yn cymryd rhan mewn trafodaethau ar faterion y cyngor i sicrhau bod barn a dyheadau pobl ifanc yn cael eu hystyried. Byddai'r cynrychiolwyr yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hysbysu a chynnal diddordeb pobl ifanc. Bydd y cynllun Cynrychiolwyr Ieuenctid yn helpu i fagu hyder person ifanc a chynyddu ei wybodaeth am ddemocratiaeth leol a dinasyddiaeth. Bydd y profiad yn ychwanegu at CV person ifanc, gan arwain at well cyfleoedd addysgol a chyflogaeth.
I fod yn gymwys i fod yn Gynrychiolydd Ieuenctid, bydd angen i chi fod rhwng 15 a 19 oed ac yn byw yng nghymuned Cwmllynfell neu o fewn tair milltir iddi. Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Cwmllynfell a Rhiwfawr.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Gynrychiolydd Ieuenctid, gallwch lawrlwytho ffurflen gais o dudalen Llyfrgelloedd gwefan y cyngor.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 7 Mawrth 2016. Gofynnir i ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer i ddod i gyfweliad anffurfiol gyda phanel bach o gynghorwyr a fydd yn cynnwys Cadeirydd ac Is-gadeirydd y cyngor.