Login
Get your free website from Spanglefish
Visit community-council.org.uk for modern, accessible and reasonably priced Community Council websites.

Y Cyngor

Math o awdurdod lleol yw Cyngor Cymuned, sef haen isaf neu gyntaf llywodraeth leol.

Mae'r Cyngor yn cynrychioli'r gymuned leol ar amrywiaeth o faterion, gan gyflwyno sylwadau a chydgysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Llywodraeth Cymru, Heddlu De Cymru a llawer o sefydliadau eraill yn lleol. Yn ôl statud, mae'n rhaid ymgynghori ag ef ar rai materion, yn benodol ceisiadau cynllunio, priffyrdd a materion eraill sy'n effeithio ar yr amgylchedd. Mae'r cyngor hefyd yn cefnogi sefydliadau lleol eraill drwy ddarparu grantiau bach a chynnig cymorth gyda'u gweithgareddau lle bynnag y bo modd.

Cyflogir clerc rhan-amser i gynorthwyo wrth weinyddu busnes y cyngor.

Ariennir gweithgareddau'r cyngor drwy braesept a delir gan bob aelwyd lleol ac sy'n cael ei gasglu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fel rhan o Dreth y Cyngor. Swm y praesept ym Mand D Treth y Cyngor ar gyfer 2013/14 yw £64.26 y flwyddyn. Mae holl weithgareddau a gwariant y cyngor yn cael eu monitro'n flynyddol gan archwilwyr annibynnol a benodir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Mae'r Cyngor yn gyfrifol am amrywiaeth o amwynderau a gwasanaethau lleol. Mae hefyd yn cefnogi, drwy grantiau fel arfer, nifer o sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau a chyfleusterau lleol. Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn rheoli'r canlynol:

Mynwent Cwmllynfell

Mae'r cyngor yn gyfrifol am waith cyffredinol i gynnal a chadw'r fynwent ac am  weinyddu lleiniau claddu. I drefnu prynu llain neu osod cofeb, cysylltwch â Mrs Cynthia Phillips. Ffôn: 01639 830432.  Cyfeiriad: 23 Teras y Rheilffordd, Cwmllynfell, Abertawe SA9 2GP. Gellir gweld rhestr o daliadau'r fynwent ar dudalennau Llyfrgell y wefan.

Parc Rhiwfawr

Mae'r parc yng nghanol Rhiwfawr, ger neuadd y pentref. Ceir ardal werdd fawr ar gyfer gemau pêl, llwybr natur gyda phyllau, ardal chwarae plant amgaeedig gyda chyfarpar a llwybr BMX.

 

 

 

 

 

 

Parc Llynfell

Gyda chymorth grantiau a chefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, mae'r Cyngor Cymuned wedi datblygu cyfleuster amlweithgaredd i bobl ifanc ar yr hen gyrtiau tenis nesaf at y lawnt bowls yng Nghwmllynfell. Mae gan y parc ardal sglefyrddio, gwifr sip a man cyfarfod bach dan do. Mae ardal chwaraeon amgaeedig wedi'i marcio ar gyfer pêl-droed a phêl-fasged. Agorwyd y parc yn 2013 gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones

Torri Gwair

Mewn rhai ardaloedd cyhoeddus, mae'r Cyngor yn trefnu i'r gwair gael ei dorri. Mae'r gwaith hwn yn ddewisol.

Goleuadau'r Nadolig

Mae'r goleuadau a'r goeden Nadolig sy'n helpu i ddod â lliw i'n cymuned yn ystod y gaeaf yn cael eu hariannu'n rhannol drwy grant blynyddol a chyfraniadau.

Cyfleusterau, sefydliadau a grwpiau lleol.

Mae Cwmllynfell yn gymuned fywiog. Mae'r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad pwysig a wneir gan sefydliadau a grwpiau i gyfoethogi bywyd cymunedol. Mae llawer o'r cyfleusterau'n dibynnu ar wirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser er lles y gymuned. Mae'r Cyngor yn cefnogi sefydliadau a grwpiau o'r fath drwy ddarparu grantiau. Mae'r Cyngor wedi cefnogi'r canlynol drwy grantiau blynyddol:

  • Neuadd y Mileniwm Cwmllynfell
  • Neuadd y Gymuned Rhiwfawr

 

 

 

 

 

 

Mae'r Cyngor hefyd wedi rhoi cymorth ariannol i'r canlynol:

  • Cymdeithas Pensiynwyr Cwmllynfell a Rhiwfawr
  • Clwb Bowls Cwmllynfell a'r Rhanbarth
  • Ysgol Gynradd Cwmllynfell
  • Clwb Rygbi Cwmllynfell
  • Cyngor ar Bopeth
Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy | accessibility statement