Grwpiau lleol
Gwarchod y Gymdogaeth Cwmllynfell a Rhiwfawr
Prif bwrpas Gwarchod y Gymdogaeth yw cydweithio er mwyn helpu i wneud y gymuned yn fwy diogel ac adfer ysbryd cymunedol. Mae'n helpu hefyd i leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol gan ddarparu diogeledd a thawelwch meddwl i breswylwyr. Mae Timau Plismona yn y Gymdogaeth yn gweithio'n agos gyda Gwarchod y Gymdogaeth i sicrhau bod y cyngor a'r mentrau atal troseddu diweddaraf ar gael i gadw cartrefi'n ddiogel. Mae'n bosib bod cartrefi mewn cymunedau â chynllun Gwarchod y Gymdogaeth yn gymwys i dalu premiwm yswiriant tai gostyngol.
Ceir cynrychiolwyr Gwarchod y Gymdogaeth ar draws yr ardal. Gellir gweld rhestr o gynrychiolwyr ar dudalennau Llyfrgell y wefan.
I holi am eich cynllun Gwarchod y Gymdogaeth lleol, gallwch gysylltu â'r Cydlynydd, y Cynghorydd Clive Philips, ar dudalen yr Aelodau