Login
Get your free website from Spanglefish
Visit community-council.org.uk for modern, accessible and reasonably priced Community Council websites.

Grwpiau lleol

Gwarchod y Gymdogaeth Cwmllynfell a Rhiwfawr

Prif bwrpas Gwarchod y Gymdogaeth yw cydweithio er mwyn helpu i wneud y gymuned yn fwy diogel ac adfer ysbryd cymunedol. Mae'n helpu hefyd i leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol gan ddarparu diogeledd a thawelwch meddwl i breswylwyr. Mae Timau Plismona yn y Gymdogaeth yn gweithio'n agos gyda Gwarchod y Gymdogaeth i sicrhau bod y cyngor a'r mentrau atal troseddu diweddaraf ar gael i gadw cartrefi'n ddiogel. Mae'n bosib bod cartrefi mewn cymunedau â chynllun Gwarchod y Gymdogaeth yn gymwys i dalu premiwm yswiriant tai gostyngol.

Ceir cynrychiolwyr Gwarchod y Gymdogaeth ar draws yr ardal. Gellir gweld rhestr o gynrychiolwyr ar dudalennau Llyfrgell y wefan.

I holi am eich cynllun Gwarchod y Gymdogaeth lleol, gallwch gysylltu â'r Cydlynydd,  y Cynghorydd Clive Philips, ar dudalen yr Aelodau

Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy | accessibility statement