Login
Get your free website from Spanglefish
Visit community-council.org.uk for modern, accessible and reasonably priced Community Council websites.

Ymwadiad

Bwriad y wefan hon yw darparu gwybodaeth gyffredinol am Gyngor Cymuned Cwmllynfell ac am amrywiaeth o bynciau eraill a allai fod o ddiddordeb i'r cyhoedd cyffredinol. Gwnaed ymdrechion rhesymol, a byddant yn parhau wrth gynnal a chadw'r wefan, i gyflwyno gwybodaeth a data sy'n gywir, yn gyfredol, yn wir  ac wedi'u mynegi'n glir.

Ni all y Cyngor warantu bod unrhyw wybodaeth sydd ar gael o'r wefan hon, neu drwy unrhyw ddolenni a nodir ar y wefan hon, yn hollol gywir neu heb elfennau niweidiol. Eich cyfrifoldeb chi yn unig yw cymryd unrhyw ragofalon angenrheidiol o ran meddalwedd a chadarnhau unrhyw wybodaeth sy'n deillio o ffynonellau heblaw am Gyngor Cymuned Cwmllynfell.

Mae Cyngor Cymuned Cwmllynfell yn cadw'r hawl i newid neu ddileu gwybodaeth, testunau neu gynnwys ar y wefan hon ar unrhyw adeg, heb rybudd neu ymgynghori ymlaen llaw. Mae hefyd yn cadw'r hawl i arfer rheolaeth olygyddol dros unrhyw ddeunydd sy'n cael ei gynnig gan eraill i'w ddangos ar y wefan hon. Nid oes gan y Cyngor reolaeth dros hysbysebion sydd wedi'u gosod ar y wefan hon gan ddarparwyr y wefan

Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy | accessibility statement