Login
Get your free website from Spanglefish

Gwybodaeth am yr Ardal

Cymuned wledig yw Cwmllynfell ar ffin ddwyreiniol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'n 3 milltir o Gwm Tawe a thua 17 milltir i'r gogledd o ddinas Abertawe ac 11 milltir o gyffordd 45 traffordd yr M4. Hon yw'r ward leiaf ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot gyda phoblogaeth o 1,123 (Cyfrifiad 2001). Mae'r iaith Gymraeg yn cael ei siarad yn eang yng Nghwmllynfell ac mae bron 70% o'r preswylwyr yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg.

Mae ward etholiadol Cwmllynfell yn cynnwys Blaennant, Bryn-Melyn, Celliwarog, Cwmllynfell a Rhiwfawr. Mae'n ffinio â wardiau Cwarter Bach (Sir Gâr) i'r gogledd-ddwyrain; Cwm-twrch (Powys) i'r dwyrain; Ystalyfera i'r de-ddwyrain; Pontardawe i'r de-orllewin; Gwauncaegurwen i'r gorllewin a Brynaman Isaf i'r gogledd-orllewin.

Er ei bod yn gymuned fach, mae llawer o gyfleusterau a gwasanaethau ar gael yng Nghwmllynfell. Ceir ysgol gynradd Gymraeg, meddygfa, sawl capel, 2 neuadd gymunedol ffyniannus, neuadd pensiynwyr, llyfrgell, fferyllfa, archfarchnad fach, swyddfa'r post a chigydd. Ceir clwb cymdeithasol a thafarn, Y Boblen. Mae gan Gwmllynfell glwb rygbi a chae chwarae, lawnt bowls awyr agored a thri maes chwarae i blant. Mae llawer o lwybrau cerdded yn yr ardal sy'n mynd ar hyd nentydd, drwy goetir ac ar draws gweundir.

Hanes Cwmllynfell

Mae gan Gwmllynfell le pwysig yn hanes Anghydffurfiaeth yng Nghymru. Adeiladwyd y capel annibynnol cyntaf yma mor gynnar â 1701, ar lannau'r Llynfell. Gellir gweld adfeilion yr hen gapel a'i fynwent Fictoraidd drawiadol o hyd. Adeiladwyd mynwent fwy ym 1850 a'r capel presennol ym 1905, yn nes at sgwâr y pentref.


Saif Cwmllynfell yng nghysgod cwm Llynfell, yn agos at fan cyfarfod siroedd hanesyddol Sir Gâr, Sir Forgannwg a Sir Frycheiniog. Ceir tystiolaeth bod pobl wedi byw yma yn yr Oes Efydd, fwy na 4,000 o flynyddoedd yn ôl. Ym 1984, cafodd pum pen bwyell o'r cyfnod hwnnw eu darganfod yn y pentref.


Adeiladwyd yr ysgol gyntaf yn y pentref ym 1804, ar ochr arall y Llynfell i'r hen gapel. Hon oedd yr unig ysgol yn yr ardal ac roedd yn darparu addysg dda i blant lleol drwy gydol y 19eg ganrif. Cafodd ei chau ym 1883, pan agorwyd yr ysgol bresennol. I ddathlu'r digwyddiad dilynodd y plant eu pennaeth mewn gorymdaith o'r hen ysgol i'r adeilad newydd.


Erbyn yr 20fed ganrif, roedd Cwmllynfell yn gymuned lo brysur, a thomen y lofa'n taflu ei chysgod ar draws y dirwedd leol. Roedd gan dafarn y pentref, y Mountain Hare (Y Boblen bellach), far pren hir a oedd yn ymestyn ar hyd yr adeilad. Byddai'n llawn glowyr ar ddiwedd y shifft. Roedd gan y pentref Neuadd Les y Glowyr drawiadol hefyd, y talwyd amdani gan gyfraniadau'r glowyr eu hunain. Adeiladwyd Neuadd y Mileniwm sy'n addas i'r oes fodern yn ei lle yn 2002.


Yn ystod y 18fed ganrif, roedd haearnfaen yn cael ei gloddio'n lleol a'i werthu i waith dur Llandyfan ac Ynyscedwyn. Roedd cyfres o byllau glo llwyddiannus ar hyd y cwm ar ddechau'r 19eg ganrif, gan gynnwys Glofa Cwmllynfell a agorwyd ym 1820. Oherwydd y galw uchel am lo a haearn lleol yng nghanol y 19eg ganrif, denwyd mwy a mwy o bobl i'r ardal i chwilio am waith.

Ymhlith y bobl a oedd yn gysylltiedig â Chwmllynfell yn y gorffennol, roedd John Jones, Brynbrain, entrepreneur lleol blaenllaw yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif. Drwy ei ymdrechion i ddatblygu pyllau glo a haearnfaen ac adeiladu ffyrdd newydd, cyfrannodd lawer at lwyddiant cynnar y rhanbarth. Roedd Jones yn ddiacon yn hen Gapel Cwmllynfell lle gellir gweld ei garreg fedd o hyd. Ganwyd y bardd, Watcyn Wyn, ger y pentref ac enillodd un o'r gwobrau cyntaf am farddoniaeth mewn Eisteddfod a gynhaliwyd yng Nghwmllynfell ym 1859

Click for Map WikanikoWork from Home
site map | cookie policy | privacy policy | accessibility statement