![]() |
![]() |
||
This is a free Spanglefish 1 website. | ||
Mynd am Dro yn y Flwyddyn Newydd 05 January 2008
Fe fydd y cyfle flynyddol i fynd am dro ar lwybrau cyhoeddus Cilybebyll yn cymryd lle ar Ddydd Sadwrn, 05 Ionawr 2008. Mae'n agored i bawb, ac fe fydd y cerdded yn dechrau o Festri Capel yr Alltwen am 10.30 y bore. Bydd yn gorffen wrth y Festri hefyd, wrth i'r cerddwyr gael croeso nol a chawl blasus. Cyfle gwych i gael ymarfer corff, gweld y wlad o amgylch Alltwen, Gellinudd, Cilybebyll a Rhos, ac i gymdeithasu gyda ffrindiau hen a newydd. Byddai'r digwyddiad flynyddol hon ar galendr Cilybebyll ddim yn bosib heblaw help gwiddfoddolwyr, yn enwedig aelodau'r Capel sydd yn dosbarthu'r croeso a'r cawl ar ddiwedd y daith! Diolch yn fawr.
| ![]() |
|
![]() |