SpanglefishCyngor Cymuned Cilybebyll | sitemap | log in
This is a free Spanglefish 1 website.

Gwybodaeth

Cymuned lled-wledig yng Nghwm Tawe, De Cymru yw Cilybebyll, wedi ei leoli tua 10 milltir i’r gogledd o Ganol Dinas Abertawe a 4 milltir o Gyffordd 45 ar draffordd yr M4. Mae’n leoliad da ar gyfer pobl sydd yn dymuno manteisio ar y cyfleusterau sydd ar gynnig yn Abertawe, a’r trawsdoriad o atyniadau mewn cylch ehangach, gan gynnwys Parc Gwledig Bannau Brycheiniog, ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol  y Gŵyr.

Gellir dod iddo o draffordd yr M4 ar hyd yr A4067, Ffordd Osgoi Cwm Tawe,  neu ar hyd yr A474 o Rydaman yn y gorllewin, ac o Gastell Nedd, lle mae’r prif orsaf drenau agosaf, sydd â chysylltiad uniongyrchol â Chaerdydd a gorsaf Paddington, Llundain.
 
Lleolir Pontardawe – tref fechan wledig sy’n ganolfan i sawl amwynder lleol – llai na milltir i ffwrdd ar ochr orllewinol Cwm Tawe, tra bo Cilybebyll ar yr ochr arall i’r dyffryn ar draws yr afon Tawe. Prif bentrefi plwyf Cilybebyll yw Yr Alltwen, Fforestgoch, Gellinudd a Rhos, ynghyd â phentrefan Cilybebyll ei hun, sydd wedi rhoi ei enw i’r gymuned.
 
Gyda phoblogaeth yn agos i 5,000 (Cyfrifiad alltwen primary school2001), mae dwy ysgol gynradd yng Nghilybebyll  Alltwen a Rhos, ynghŷd ag  Ysgol Uwchradd Cwmtawe ym Mhontardawe.   Ceir addysg cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe ac Ysgol Gyfun Ystalyfera.
 
st john's church cilybebyllYn ogystal â bod yn ardal wledig ddeniadol gyda sawl llwybr troed cyhoeddus, mae gan Cilybebyll orffennol cyfoethog, a gwelir hyd heddiw dystiolaeth o’i hanes diwydiannol, crefyddol, cymdeithasol a phatrymau gwladychiad. Ceir digonedd o gyfleoedd i fwynhau’r hanes hwn a chyfle i weld golygfeydd godidog wrth gerdded o amgylch yr ardal.
 
Mae Cyngor y Gymuned wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd y gymuned hon ers dros canrif, ac yn y cofnodion hanesyddol, sydd wedi eu diogelu gan Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe, ceir ffynhonnell defnyddiol ar gyfer astudio’r gorffennol. Mae’r wefan hon yn cynnig ffynhonnell newydd o wybodaeth ar gyfer y presennol ac adnodd gwerthfawr ar gyfer y dyfodol.
Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy