![]() |
![]() |
||
This is a free Spanglefish 1 website. | ||
Buddsoddiad Man Chwarae yn yr Alltwen 11 March 2013 Dechreuodd waith ar Ddydd Llun 11 Mawrth 2013 ar fan chwarae newydd yn Brynmorgrug Alltwen. Roedd y man chwarae gwreiddiol wedi ei ddarparu yn y 1990s, ac mae wedi bod yn boblogaidd gyda phlant yr ardal dros y blynyddoedd. Erbyn hyn yn dangos angen adnewyddiad, daeth cynnig ar wellhad i'r adwy trwy'r perchnogion, Cyngor Cymuned Cilybebyll, ar ol ymgynghoriad gyda phlant lleol a'u rhieni cyn penderfynnu ar y ffordd ymlaen. Cafwyd arian gan y Cyngor oddi wrth Tai Redrow, sy'n datblygu yn yr ardal cyfagos, a bu cais llwyddiannus am arian ychwanegol oddi wrth National Grid. Yn dilyn llwyddiant y cais, penodwyd Wicksteed Playscapes, ac erbyn hyn maent wedi dechrau ar gytundeb dros 3 wythnos i gyflawnu'r gwaith. Ymddiheura'r Cyngor fod y man chwarae ddim ar gael dros y cyfnod hyn, ond maent yn siwr bod y fuddsoddiad er lles y plant lleol ac y bydd yn darparu cyfleusterau newydd i'w defnyddio dros llawer o flynyddoedd i ddod. | ![]() ![]() ![]() |
|
![]() |