![]() |
![]() |
||
This is a free Spanglefish 1 website. | ||
CYFLEUSTERAU’R CWM I WELLA AR OL BUDDSODDIAD YN Y GYMUNED 04 February 2011 Mae Cyngor Cymuned Cilybebyll ar fin dechrau dau brosiect i wella cyfeusterau yn yr Alltwen ac yn y Rhos yng Nghwmtawe, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yn dilyn penderfyniad ynglyn a dwy grant yn gyfanswm o £88,000 drwy Ardal Adfywio Cymoedd y Gorllewin, ac ynghyd a £24,000 o fuddsoddiad gan y Cyngor, mae gwelliannau sylweddol wedi eu cynllunio ar gyfer dwy ganolfan gymuned. Mae’r gwaith yng Nghanolfan Gymuned yr Alltwen yn dilyn cwblhau y rhan cyntaf o’r gwaith yn 2010, a genfogwyd gan grant o dros £10,000 drwy Cronfa Tirlenwi Cymunedau sydd yn cael ei ddarparu gan Waste Recycling Environmental (WREN). Bydd arian y Cynulliad yn gwneud y rhan nesaf o’r gwaith yn bosibl, yn adeiladu ar y momentwm a ddaeth yn gynt oddi wrth y Cyngor a’r grwpiau sy’n defnyddio’r cyfleusterau. Mae’r gwaith yn cynnwys ffenestri newydd, gwella’r to, rhoi “insulation” yn yr adeliad, a’r cyfan o fudd i’r hen adeilad dros can mlwydd oed ac wedi ei ddefnyddio fel canolfan gymuned ers dechrau’r 1980s. Mae’r ystafelloedd newid are Barc y Rhos yn mynd nol i’r 1920s, ac nid yw’r adeilad bellach yn weddus ar gyfer yr hyn sydd eisiau. Wrth addasu rhan o’r ganolfan gymuned cyfagos nad yw yn cael ei ddefnyddio bellach, bydd cyfleusterau newydd o safon na welwyd o’r blaen yn y Rhos yn cael eu darparu ar gyfer unrhyw un yn y gymuned a fynnai ddefnyddio’r meysydd chwarae neu’r Ganolfan Gymuned. Yn ogystal a’r ystafelloed newid a chawodydd, bydd y Cyngor yn cynnwys llawer o waith arbed ynni yn yr adeilad gyfan. Dywedodd Cadeirydd Cyngor Cymuned Cilybebyll, y Cynghorydd Gina Threlfall: “Byddai’r Cyngor ddim mewn sefyllfa i gario ymlaen gyda’r rhaglen yma o waith heb gefnogeath hael Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac rydym yn hapus i weithio mewn partneriaeth i ddatblygu’r cyfleusterau a ddarparwn ni, yma yng ngymunedau Cwmtawe. Rwy’n siwr fod trigolion a defnyddwyr y canolfannau yn yr Alltwen a Rhos yn gwerthfawrogi yr hyn sy’n cael ei wneud, ac y byddant yn dal i weithio gyda ni yn y dyfodol”.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Adfywio a Thai, Jocelyn Davies AM: “Mae rhaglen Ardal Adfywio Cymoedd y Gorllewin yn cefnogi prosiectau mawr a bach, o welliannau canol tref lawr i brosiectau cymunedol bychan, pob un wedi ei hyrwyddo at wella bywyd bobol yr ardal. Rwyf yn hapus iawn ein bod yn gallu cefnogi gwelliannau i Ganolfannau Cymuned yn yr Alltwen ac yn Rhos. Gobeithiwn bydd llawer o deuluoedd yr ardal yn defnyddio’r canolfannau a bod y cyfleusterau yn briodol ar gyfer gweithgareddau cymunedol a chwaraeon, yn helpu bobol i ddod yn ffit a gwneud ffrindiau newydd, yn ogystal a dysgu sgiliau newydd wrth fwynhau.
| ![]() ![]() ![]() |
|
![]() |