![]() |
![]() |
||
This is a free Spanglefish 1 website. | ||
Gwelliannau Canolfan Gymuned yr Alltwen 12 May 2010 Gwelliannau i Ganolfan Gymuned yr Alltwen Mae Cyngor Cymuned Cilybebyll yn barod i ddechrau cyfnod arall o welliannau yng Nghanolfan Cymunedol yr Alltwen gyda help grwpiau lleol. Ar ôl derbyn cymhorthdal o ddeng mil o bunnau oddi wrth Cronfa Tirlenwi Cymunedau sydd yn cael ei ddarparu gan , Waste Recycling Environmental (WREN), mae’r Cyngor wedi dechrau rhaglen o waith a fydd yn fuddsoddiad o dros £16,000. Mae sawl grŵp sy’n defnyddio’r Ganolfan wedi cefnogi’r cais i gael cymhorthdal, a byddant yn cymryd rhan yn y cyfnod nesaf o waith, sef ailaddurno’r neuadd lle mae lawer o’u gweithgareddau yn cymryd lle. Mae hyn yn dilyn gwaith adfer gan gontractwyr lleol ym mis Ebrill, ar y to, i’r adeilad a’r trydan. Adnabuwyd yr adeilad fel “yr ysgol fach” am llawer of flynyddoedd ac mae dros gan mlwydd oed erbyn hyn. Fel canolfan cymuned y defnyddiwyd yr adeilad ers pum mlynedd ar hugain a mwy bellach, ac fe fydd gwelliannau yn cymryd lle dros y blynyddoedd nesaf, fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i ddarparu cyfleusterau yn yr Alltwen a Rhos. Dywedodd Cadeirydd Cyngor Cymuned Cilybebyll, y Cynghorydd Gina Threlfall : “ Mae’r Cyngor wedi cysylltu gyda grwpiau sy’n defnyddio’r adeilad cyn penderfynu mynd ymlaen gyda’r gwaith, a chawsom ein calonogi gan y brwdfrydedd a ddangoswyd at yr adeilad, a gan gynigion i helpu. Rydym yn hapus nawr ein bod wedi cyrraedd cyfnod lle gallwn symud ymlaen gyda’r gwaith nesaf, ac yn ddiolchgar iawn i WREN am eu cyfraniad hael tuag at y gost”. | ![]() ![]() ![]() |
|
![]() |