SpanglefishCyngor Cymuned Cilybebyll | sitemap | log in
This is a free Spanglefish 1 website.
Archwiliad Diogelwch Rhag Tan yn y Cartref
12 March 2010

Mae Gwasanaeth Tan ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru'n gweithio'n agos gyda'i Bartneriaid Cymunedol, i gymell y cyhoedd i fanteisio ar y gwasanaeth Archwiliadau Diogelwch Rhag Tn yn y Cartref AM DDIM a ddarparwn. Mae'n eisiau parhau i gyflawni gwasanaeth ar lefel uchel, gan ganolbwyntio ar gyfleu negeseuon diogelwch pwysig i'n cymunedau. 


Mae yn gweithio ochr yn ochr a'r Cynghorau lleol fel bod eu gwefannau, yn ogystal gwefannau cymunedol, yn cynnwys dolen a sefydlwyd i hysbysu ymwelwyr ei bod yn darparu Archwiliadau Diogelwch Rhag Tan yn y Cartref. Ymweliad gan aelod o'r Gwasanaeth Tan i'ch cartref chi yw Archwiliad Diogelwch Rhag Tan yn y Cartref, i roi cyngor ar ddiogelwch rhag tan yn y cartref ac i ddarparu a gosod larymau mwg AM DDIM. Yr archwiliadau yma yw conglfaen y rol ragweithiol ar fabwysiedir ganddynt yn eu hymgyrch i leihau'r nifer o farwolaethau ac anafiadau a achosir gan danau damweiniol yn y cartref.

Medrwch wneud cais am Archwiliad Diogelwch Rhag Tan yn y Cartref AM DDIM ar eich cyfer chi neu berthynas dibynnol trwy ymweld www.mawwfire.gov.uk neu trwy gysylltu 'r Gwasanaeth ar 0800 169 1234.  Hefyd, medrwch anfon neges destun, yn cynnwys y gair 'HFSC' ac yna eich enw i 88365. Os ydych yn fyddar neu'n drwm eich clyw, medrwch deipio'r gair 'deaf' wedi eich enw, cyn anfon y neges destun I'r un rhif (88365), a bydd aelod o'r gwasanaeth tn yn cysylltu chi o fewn 3 diwrnod gwaith.

Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy