![]() |
![]() |
||
This is a free Spanglefish 1 website. | ||
Goleuo'r Goeden Nadolig i gefnogi Harry's Fund 29 November 2011 Unwaith eto eleni, mae'r Cyngor wedi trefnu bod Sion Corn yn ymweld a'r Alltwen i oleuo'r Goeden Nadolig. Mae e wedi llwyddo i ffeindio amser am 6.30o.g. ar Nos Lun 05 Rhagfyr 2011, ac mae'n edrych ymlaen at glywed Band Pres Ieuenctid Cwmtawe a'r Cylch yn chwarae carolau i'r plant a'r oedolion.
Eleni fe fydd cyfle i gefnogi Harry's Fund wrth noddi un o'r goleuadau ar y goeden. Ewch i Alltwen Stores i gefnogi'r fenter, necu ewch at www.HarrysFund.org Mae'r Cyngor yn falch iawn eleni i gydnabod ffrindiau yn y gymuned busnes, sydd wedi cytuno i estyn eu cefnogaeth hael. Mae hyn yn cynnwys y busnesau lleol canlynol - Swansea Wedding Cars Headquarters Alltwen Clwb Rygbi yr Alltwen Alltwen Stores .......ac eraill sydd ddim mor lleol, sy'n cynnwys County Contracts Flooring, Glais Second Life Products Wales, Cwmgors DNA (Wales) Ltd, Pontardawe Lliw Building Supplies Ltd, Pontardawe Fel arfer, diolch i Egwys Sant Ioan yr Alltwen fydd yn darparu lluniaeth ysgafn, i Heddlu De Cymru o Bontardawe, a hefyd i'r "bright sparks" yng Nghyngor Bwrdeistref Castell Nedd Port Talbot. Gobeithio bydd pawb yn mwynhau! | ![]() |
|
![]() |