Brynaman Uchaf
Lleolir Brynaman Uchaf ar ochr comin agored y Mynydd Du, sy’n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Hyd at y 19eg ganrif cymuned amaethyddol, oedd yr ardal gyda bythynnod a ffermydd ar draws y dyffryn a’r llethrau.
Daeth y pentref i fodolaeth gyda thyfiant pyllau glo a diwydiannau eraill yn ystod y 19eg ganrif. Yn 1819 adeiladodd John Jones adeiladodd heol newydd dros y mynydd i Langadog, sef yr A4069 nawr, a phont gerrig dros yr Afon Aman. Roedd e ynghlwm wrth sawl menter ddiwydiannol yn yr ardal, ac yn 1838 fe adeiladodd Brynaman House. Mabwysiadodd y pentref enw’r tŷ pan agorwyd gorsaf gan reilffordd y Swansea Vale yn 1864 a rhoddwyd ‘Brynaman’ ar arwydd yr orsaf.
Agorodd y rheilffordd y ffordd ar gyfer ymestyn y gwaith glo yn yr ardal. Fe wnaeth y glofeydd lleol a diwydiannau eraill, fel Gwaith Haearn yr Aman a agorwyd yn 1847 a Gwaith Tun yr Aman a agorwyd yn 1872, ddenu nifer fawr o bobl i’r ardal. Ddaeth y rhan fwyaf ohonynt o ardaloedd gwledig Cymru felly cadwyd cymeriad cryf Cymreig y gymuned.
Roedd y bardd Watcyn Wyn yn gweithio yn y glofeydd lleol fel crwt. Aeth ymlaen i sefydlu Academi’r Gwynfryn yn Rhydaman, ac ennill gwobrau am ei gerddi a’i emynau. Tyfodd traddodiad cerddorol Brynaman gyda’r diwydiant lleol. Er enghraifft, canodd y bardd lleol Emlyn Aman (Emlyn Evans, 1892-1963) am dalentau'r band arian lleol.
Nid oedd gan Frynaman Uchaf le addoli hyd nes 1841, pan agorwyd Ysgol Sul yng Nghwmgarw Ganol, cartref teuluol Watcyn Wyn (1844-1905). Agorwyd y capel cyntaf, sef Gibea, yn 1842, ac Eglwys St Catherin yn 1881.
Rhwng 1860 ac 1890 roedd poblogaeth y pentref wedi mwy na ddyblu. Adeiladwyd rhesi o derasau gan y cwmnïau gwaith ar gyfer eu gweithwyr. Roedd amrediad eang o siopau a gwasanaethau yn ffynnu yn yr ardal. Yn y 1920au talodd y gweithwyr lleol am adeilad Y Neuadd Gyhoeddus a agorwyd yn 1926 gyda sinema a seddau am 1,000 o bobl,a hefyd lolfa, llyfrgell ac ystafell biliards.
Ers dirywiad ei ddiwydiannau, mae Brynaman Uchaf wedi newid cryn dipyn, ond mae’r ysbryd cymunedol a ffynnai yn ei hanterth yn aros yn gryf. Mae Ysgol y Babanod a agorwyd yn 1926 wedi’i droi yn ganolfan gymunedol sef Canolfan Y Mynydd Du a agorodd yn 2003, ac sydd erbyn heddiw yn ganolbwynt y pentref.
Cefnbrynbrain
Pentref glofaol oedd Cefnbrynbrain yn ystod y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif, ond mae yna dystiolaeth am weithgarwch dynol yn gynharach na hyn ar y bryniau i’r gogledd o’r pentref. Er enghraifft, mae yna garneddau ar lethrau Twyn y Moch sy’n rhan o amlosgfan cyrff sydd yn mynd yn ôl tua 3,000 mlynedd i’r Oes Efydd, pan roedd yr hinsawdd yn llawer cynhesach ac yn denu cymunedau ffermio i’r ardal. Ar ben y mynydd gellir gweld llawer meet o garneddau o’r Oes Efydd , efallai mannau claddu penaethiaid hynafol, wedi’u gosod ar ben y bryniau i oruchwylio'r cymunedau yn y dyffryn islaw.
Mae’r archeoleg werthfawr sydd ar gomin y mynydd yn cynnwys cytiau a chorlannau. Ganrifoedd yn ôl, arferai bugeiliaid wario tymor pori’r haf, o Fai tan Hydref, yn gofalu am eu defaid a’u gwyddau ar borfeydd y mynydd. Er bod yn ymarfer hyn wedi hir orffen, mae ffermio, y diwydiant hynaf yn yr ardal, yn dal yn bwysig gyda’r anifeiliaid yn pori ar borfeydd y mynydd pob haf.
Fe ddechreuodd y pentref dyfu wrth i lowyr a’u teuluoedd ddod i’r ardal ar gyfer gwaith yn y glofeydd lleol. Dr wedi diflannu nawr, ond roedd gan Gefnbrynbrain ei orsaf reilffordd ei hun a chapel Bedyddwyr gyda tho sinc, yn ogystal â’r rheilffordd oedd yn cysylltu'r ardal gyda Brynaman i’r gorllewin a Chwmtawe i’r dwyrain.
Pan gafodd y mapiau cyntaf eu gwneud o’r ardal ar ddechrau’r 19eg ganrif, roedd yr ardal yn anghysbell ac yn denau ei phoblogaeth. 200 o flynyddoedd yn ôl dim ond llawn dwrn o fythynnod a ffermydd gwasgaredig oedd yna, fel Llwyn y Moch, Y Ddolgam a Brynbrain. Enwyd y pentref ar ôl yr olaf o’r rhain.
Dyma lle ganwyd y diwydiannwr, o’r 19eg ganrif, John Jones, Brynbrain, oedd yn berson pwysig yn hanes y rhan uchaf o Ddyffryn Aman. Fe agorodd e lofeydd a mwyngloddiau haearn, ac fe adeiladodd yr heolydd da cyntaf i gysylltu’r dyffryn i’r byd tu allan, gan agor lan yr ardal i ddatblygiad diwydiannol.
Rhosaman
Lleolir y pentref hwn ar ochr y maes glo caled. I’r gogledd mae comin agored y Mynydd Du, sydd tu allan i’r maes glo. I’r de mae comin Gwaun Cae Gurwen sydd wedi ei wedd newid gan ddegawdau o gloddio am lo. Mae rhan ohono wedi bod yn lleoliad ar gyfer cloddio glo brig ers blynyddoedd bellach.
Mae’r dystiolaeth gynharaf o bredenoldeb dynoliaeth yn yr ardal ar y Mynydd Du, lle gellir gweld carneddau claddu o’r oes efydd ar nifer o’r copaon. Mae olion adfeilion cytiau ffermwyr canoloesol mewn llefydd cysgodol ar lethrau gwaelod y comin, yn ogystal â chorlannau muriau cerrig sych trawiadol ar hyd ochrau’r comin. Defnyddid y rhain gan fugeilied yn ddiweddar ar gyfer eu defaid.
Gweithgareddau Diwydiannol daniodd i dyfiant Rhosaman. Cyn y 19eg canrif roedd yr ardal yn rhostir agored, wedi ei groesi gan ychydig o lwybrau garw oedd yn mynd o’r Aman a Chwmtawe uchaf. Dim ond llawn dwrn o ffermydd oedd yn bodoli yno, fel Rhosaman, Tir Hen a Gorshelyg. Dechreuodd hyn newid gyda thyfiant y cloddio am lo a mwyngloddio haearn. Roedd y mentrwr lleol John Jones yn flaenllaw yn natblygiad y diwydiannau yma, ac erbyn yr 1830au gwasanaethid ei byllau ym Mrynaman a Rhosaman gan yr heol newydd a wnaeth adeiladu i’w cysylltu.
Erbyn diwedd y 19eg ganrif , ffurfiwyd clwstwr o dyddynnod a bythynnod o gwmpas y man lle'r oedd heol John Jones yn croesi’r Afon Aman. Ar draws yr heol roedd pwll glo Rhosaman. O ddiwedd y 19eg ganrif, datblygwyd nifer o byllau glo eraill i’r dde o’r heol, fel Pyllau Blaen Cae Gurwen a Chwmteg. Gwasanaethir y rhain gan reilffordd roedd yn cysylltu Brynaman a Chwmtawe.
Fe ddaeth Rhosaman yn nodedig am ei fythynnod bach i’r glowyr, sydd wedi eu lleoli ar hyd ochr yr heol rhwng y rhostir noeth a’r domen gwastraff. Does dim llawer o olion diwydiant ar ôl heddiw, ond mae’n bosib gweld olion yr hen waith glo, y rheilffordd ac ambell fwthyn bach.
Yn 1924, Gwaith Glo Rhosaman oedd lleoliad un o'r damweiniau gwaethaf yng nglofeydd Dyffryn Aman, lle laddwyd 7 dyn mewn ffrwydrad ar yr wyneb. Mae plac yn cofnodi’r digwyddiad ar y safle.
Roedd y Parch Rhys Pryse (1807-1869) yn byw yng Ngorsto ger Rhosaman. Ef oedd mab-yng-nghyfraith John Jones, Brynbrain, a gweinidog Capel Annibynnol Cwmllynfell ac yna Gibea, Brynaman lle cafodd ei gladdu. Roedd yn bregethwr mawr ei barch, a phawb yn yr ardal yn ei adnabod, arferai gyfansoddi ei bregethau yn aml ar gefn ceffyl ar y comin o gwmpas Rhosaman. Roedd, hefyd, yn fardd, yn seryddwr, yn glociwr, yn gosod esgyrn ac yn llysieuydd. Defnyddiwyd ei lyfr o 1849 ‘Y Llysieulyfr Teuluaidd’ yn y rhan fwyaf o’r ardal am flynyddoedd lawer ac roedd yn enwog mor bell at America.
Ystradowen
Cafodd y pentref ei enw o’i leoliad yn y dyffryn,' ystrad’ mewn Cymraeg, a’i leoliad yn agos i domen fawr sydd wedi’i galw'n’n Domen Owen ers canrifoedd. Mae’r domen siŵr o fod yn nodwedd naturiol wedi’i adael o’r Oes Ia diwethaf.
Yn ôl y chwedl, roedd y brenin Arthur a’i filwyr wedi hela'r Twrch Trwyth enwog yn yr ardal hon.
Fel y pentrefi cyfagos, mae Ystradowen yn ddyledus i’r diwydiant cloddio glo caled a fuodd yn llewyrchus yn yr ardal o ddiwedd y 19eg ganrif hyd nes canol y 20fed ganrif.
DatblygoddYstradowen pan agorwyd pyllau glo Chwmllynfell a Henllys Vale, Bryn Henllys, Hendreforgan oedd ar Ben uchaf Ddyffryn Twrch ac ar ffin ddwyreiniol Sir Gaerfyrffin
Wrth i boblogaeth lofaol yr ardal dyfu, adeiladwyd Eglwys St Margaret (1900), Capel Bryn Seion (1897) ac ysgol y pentref (1915). O fewn cof, roedd llawer o siopau yn y pentref, yn cynnwys siopau losin, groser a chigydd yn ogystal â siop teiliwr a siop grydd. Ar ddiwedd yr 19eg ganrif roedd yna felin wlân yn Felin Fach, fyddai wedi bod yn gwneud gwlanen allan o wlân Y defaid lleol.
Roedd y gymuned lofaol yn ei hanterth erbyn y 1920au, a’r pyllau glo yn rhoi bywoliaeth i’r rhan fwyaf o ddynion y pentref ymhell i mewn i ail hanner yr 20fed ganrif. Caewyd y pyllau olaf yn ystod y 1960au cynnar.
Er bod y pyllau wedi cau a diflannu ers hydoedd, mae yna lawer o archeoleg ddiwydiannol yn bodoli yn yr ardal. Mae hen stac simnai pwll Henllys Vale ynsefyll o hyd nes lan yn Nyffryn Twrch prydferth, yn agos i res o odynau calch mawr o diwedd Y 19eg ganrif. Llosgai’r odynnau galchfaen a ddeuai mewn tram o’r chwareli oedd lan ar y mynydd uwchben.
Aelodau:
Mae gan Cyngor Cymuned Cwarter Bach 14 aelod etholedig ar y mwyaf - yn cynrychioli ward Brynaman (5 aelod), Cwarter Bach (5 aelod), a Llynfell (4 aelod). Mae pob aelod yn gwasanaethu am 4 blynedd, a chynhelir yr etholiad nesaf ym Mai 2022.
Mae Clerc y Cyngor wedi ei apwyntio i'r swydd, nid ei ethol. Mae'r manylion i gysylltu ag ef ar y tudalen Cartref.
Mae'r Cynghorwr Sir presennol, hefyd, yn aelod etholedig o'r Cyngor Cymuned yn un o”r 5 sy’n cynrychioli Ward Brynaman gyda hawliau llawn i bleidleisio. Mae'r manylion i gysylltu ag ef ar y dudalen ‘Links’.