Login
Get your free website from Spanglefish
Visit community-council.org.uk for modern, accessible and reasonably priced Community Council websites.
29 June 2022
Ardystio a chymeradwyo cyfrifon blynyddol ar gyfer 2021-22

Mae rheoliad 15(1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Ariannol Cyfrifol Cyngor Cymuned Llanrhystud lofnodi a dyddio’r datganiad o gyfrifon ac ardystio ei fod yn cyflwyno’n briodol dderbyniadau a thaliadau Cyngor Cymuned Llanrhystud am y flwyddyn. . Roedd y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i hyn gael ei gwblhau erbyn 30 Mehefin 2022.


Llofnododd ac ardystiwyd y cyfrifon gan y Swyddog Ariannol Cyfrifol ar 30 Mehefin 2022.


Mae Rheoliad 15(2) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol, yn dilyn ardystiad gan y Swyddog Ariannol Cyfrifol y cyfeirir ato uchod, bod yn rhaid i’r Cyngor gymeradwyo’r cyfrifon. Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i hyn gael ei gwblhau erbyn 30 Mehefin 2022.


Nid yw'r Cyngor wedi gallu cyfarfod cyn yr uchod. Bydd y Cyngor yn cymeradwyo’r cyfrifon yng nghyfarfod arferol nesaf y Cyngor Cymuned ar 06 Gorffennaf 2022.

Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy | accessibility statement