Login
Get your free website from Spanglefish
Visit community-council.org.uk for modern, accessible and reasonably priced Community Council websites.
20 June 2022
Hawliau Etholwyr

Hysbysiad pennu’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr 

Cyngor Cymuned Llanrhystud

Blwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022

Dyddiad cyhoeddi  20 Mehefin 2022

 

Bob blwyddyn, archwilir y cyfrifon blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae unrhyw berson â diddordeb yn cael cyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac yn y blaen sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:

 

 

Lloyd OSBORNE

Pendre

Llanrhystud

SY23 5DL

clerk@cyngorcymunedllanrhystud.com

 

Rhwng yr oriau o   09:00  a 17:00  o ddydd Llun i ddydd Gwener 

Yn dechrau ar                                                             4 Gorffennaf 2022

Ac yn dod i ben ar                                          29 Gorffennaf 2022

 

O 12 Medi 2022, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi ei gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:

·            yr hawl i holi’r Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â’r cyfrifon.

·            yr hawl i ddod gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a mynegi gwrthwynebiad i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o’r rhybudd ysgrifenedig hefyd i’r Cyngor. 

Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ neu drwy e-bost yn archwiliadcyngorcymunedol@archwilio.cymru.

Cynhelir yr archwiliad o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.  

Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy | accessibility statement