Hysbysiad o’r dyddiad a benodwyd ar gyfer hawliau etholwyr o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru)2004
Cyngor Cymuned Llanrhystud
Diwedd y flwyddyn ariannol 31 Mawrth 2021
Dyddiad cyhoeddi 7 Awst 2021
Bob blwyddyn, caiff y cyfrifon blynyddol eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae gan unrhyw berson â diddordeb y cyfle i archwilio a gwneud copiau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar ôl rhoi rhybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021, bydd y dogfennau hyn ar gael ar hysbysiad rhesymol wrth wneud cais i:
Mrs Christine Evans
Ffôn: 01974 202 048
ebost: clerk@cyngorcymunedllanrhystud.com
ar y wefan: www.cyngorcymunedllanrhystud.com
Rhwng yr oriau o 10.00yb a 6.00yh ar ddydd Llun i ddydd Gwener
yn dechrau ar 20 Awst 2021
ac yn diwedd ar 17ed Medi 2021
O 20ed Medi hyd nes y bydd yr archwiliad wdi’i gwblhau, mae gan etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:
Yr hawl i gwestiynu’r Archwilydd Cyffredinol am y cyfrifon.
Yr hawl i fod yn bresennol gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a gwneud gwrthwynebiadau i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o’r rhybudd ysgrifenedig hefyd i’r Cyngor.
Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 24, Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9LJ..
Mae’r archwiliad yn cael ei gynnal dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a chod ymarfer archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.