27 July 2020
Hawliau Etholwyr
Hysbysiad o’r dyddiad a benodwyd ar gyfer hawliau etholwyr o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru)2004
Cyngor Cymuned Llanrhystud
Diwedd y flwyddyn ariannol 31 Mawrth 2020
- Dyddiad cyhoeddi 27 Gorffennaf 2020
- Bob blwyddyn, caiff y cyfrifon blynyddol eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae gan unrhyw berson â diddordeb y cyfle i archwilio a gwneud copiau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar ôl rhoi rhybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020, bydd y dogfennau hyn ar gael ar hysbysiad rhesymol wrth wneud cais i:
Mrs Christine Evans
Ffôn: 01974 202 048
ebost: clerk@cyngorcymunedllanrhystud.com
ar y wefan: www.cyngorcymunedllanrhystud.com
Rhwng yr oriau o ___10.00yb___ a ___6.00yh___ ar ddydd Llun i ddydd Gwener
yn dechrau ar 1af Medi 2020
ac yn diwedd ar 28ain Medi 2020
- O 29ain Medi hyd nes y bydd yr archwiliad wdi’i gwblhau, mae gan etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:
- Yr haw li gwestiynu’r Archwilydd Cyffredinol am y cyfrifon. Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy Grant Thornton; a chael
- Yr haw li fod yn bresennol gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a gwneud gwrthwynebiadau i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Yn gyntaf, rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol drwy Grant Thornton. Rhaid rhoi copi o’r hysbysiad ysgrifenedig hefyd i’r Cyngor.
- Gellir cysylltu â Grant Thornton yn: Grant Thornton, 3 Sgwâr Callaghan, Caerdydd, CF10 5BT.
- Mae’r archwiliad yn cael ei gynnal dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a chod ymarfer archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.