Login
Get your free website from Spanglefish
Visit community-council.org.uk for modern, accessible and reasonably priced Community Council websites.

Calendr

Mae'r Cyngor yn cwrdd bob mis, ac eithrio ym mis Awst, a chynhelir ei gyfarfod blynyddol ym mis Mai. Mae cyfarfodydd ychwanegol yn cael eu galw yn ôl yr angen, gan gynnwys is-bwyllgorau. Mae'r Cyngor yn cwrdd yn Neuadd y Mileniwm Cwmllynfell, fel arfer ar 3ydd dydd Iau'r mis drwy gydol y flwyddyn, ac eithrio ym mis Mawrth, Mai, Gorffennaf a Hydref. Yn ystod y misoedd hyn, mae'r Cyngor yn cwrdd yn Neuadd Gymunedol Rhiwfawr ar 3ydd dydd Iau'r mis. Mae'r rhan fwyaf o'r cyfarfodydd yn dechrau am 6.30pm.

Mae croeso i aelodau'r cyhoedd a'r wasg ddod i'r cyfarfodydd hyn oni bai eu bod wedi'u heithrio drwy benderfyniad am resymau cyfreithiol dilys, ond nid oes hawl ganddynt siarad. Gall aelodau godi materion ar ran aelodau unigol o'r cyhoedd yn unrhyw un o gyfarfodydd y cyngor os yw'r agenda'n caniatáu hynny.

Dyma restr o gyfarfodydd y Cyngor a'i is-bwyllgorau. Cynhelir pob un o'r cyfarfodydd yn un o'r lleoliadau canlynol -

  • Neuadd y Mileniwm Cwmllynfell, Heol Gwilym, Cwmllynfell
  • Neuadd Gymunedol Rhiwfawr, Heol Gorsto, Rhiwfawr

Mae'r calendr yn dangos dyddiadau cyfarfodydd PACT (Partneriaethau a Chymunedau Ynghyd) hefyd. Mae'r cyfarfodydd yn agored ac yn gyfle i bobl leol gwrdd â'u cynrychiolydd yr heddlu er mwyn trafod materion cymunedol a helpu i flaenoriaethu gweithgareddau'r heddlu. Nid ydynt yn gymhorthfa i drafod problemau neu bryderon unigol. I gael mwy o wybodaeth am PACT cliciwch yma.

To view as a monthly calendar click here.


Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy | accessibility statement