Login
Facebook
Get your free website from Spanglefish
Spanglefish Gold Status Expired 13/09/2023.

Cymraeg

Yr Ardal

Mae Cwarter Bach yn un o 72 cyngor cymuned yn Sir Gaerfyrddin. Mae’n gymuned wledig sydd wedi’i lleoli ar ffin orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae tua 3 milltir i’r gogledd o Gwm Tawe ac wrth droed y Mynydd Du. Mae  Cwarter Bach yn cynnwys pentrefi Brynaman Uchaf (y  pentref mwyaf), Rhosaman, Cefnbrynbrain ac Ystradowen. Cyfanswm y boblogaeth yw 2,857, gyda thua 68.7% yn siaradwyr Cymraeg. Er ei fod yn cynnwys nifer o ardaloedd, mae gan Gwarter Bach nifer o asedau a gwasanaethau. Tan yn ddiweddar roedd yna dair ysgol  gynradd, ond gyda chyfradd geni’n gostwng a thoriadau’r llywodraeth leol dim ond un ysgol gynradd sydd ar ôl, a honno ym Mrynaman Uchaf. Mae yna Ganolfan Dydd yn Ystradowen , nifer o gaeau chwarae, parciau chwarae, a pharc natur ‘Ynys Dawela’ ym Mrynaman. Mae gan Frynaman Uchaf Swyddfa Bost, nwyddau cyffredinol, siop bapurau a chaffi (yng Nghanolfan y Mynydd Du), masnachwr adeiladu, fferyllfa, sinema, garej trin ceir a nifer o siopau prydiau parod. Mae yna nifer o lwybrau cyhoeddus yn yr ardal sy’n dilyn nentydd, mynd trwy goed neu ar draws tir comin agored. Mae trywydd  poblogaidd ‘Hela'r Twrch’ yn mynd trwy’r ardal. Mae’r trywydd yn dathlu hela’r Twrch Trwyth o gainc y Mabinogi ‘Culhwch ac Olwen’, un o storïau pwysig y canoloesoedd.

Brynaman Uchaf

Lleolir Brynaman Uchaf ar ochr comin agored y Mynydd Du, sy’n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Hyd at y 19eg ganrif cymuned amaethyddol, oedd yr ardal gyda bythynnod a ffermydd ar draws y dyffryn a’r llethrau.

Daeth y pentref i fodolaeth gyda thyfiant pyllau glo a diwydiannau eraill yn ystod y 19eg ganrif. Yn 1819 adeiladodd John Jones adeiladodd heol newydd dros y mynydd i Langadog, sef yr A4069 nawr, a phont gerrig dros yr Afon Aman. Roedd e ynghlwm wrth sawl menter ddiwydiannol yn yr ardal, ac yn 1838 fe adeiladodd Brynaman House. Mabwysiadodd y pentref enw’r tŷ pan agorwyd gorsaf gan reilffordd y Swansea Vale yn 1864 a  rhoddwyd ‘Brynaman’ ar arwydd yr orsaf.

Agorodd y rheilffordd y ffordd ar gyfer ymestyn y gwaith glo yn yr ardal. Fe wnaeth y glofeydd lleol a diwydiannau eraill, fel Gwaith Haearn yr Aman a agorwyd yn 1847 a Gwaith Tun yr Aman a agorwyd yn 1872, ddenu nifer fawr o bobl i’r ardal. Ddaeth y rhan fwyaf ohonynt o ardaloedd gwledig Cymru felly cadwyd cymeriad cryf Cymreig y gymuned.

Roedd y bardd Watcyn Wyn yn gweithio yn y glofeydd lleol fel crwt. Aeth ymlaen i sefydlu Academi’r Gwynfryn yn Rhydaman, ac ennill gwobrau am ei gerddi a’i emynau. Tyfodd traddodiad cerddorol Brynaman gyda’r diwydiant lleol. Er enghraifft, canodd y bardd lleol Emlyn Aman (Emlyn Evans, 1892-1963) am dalentau'r band arian lleol.

Nid oedd gan Frynaman Uchaf le addoli hyd nes 1841, pan agorwyd Ysgol Sul yng Nghwmgarw Ganol, cartref teuluol Watcyn Wyn (1844-1905). Agorwyd y capel cyntaf, sef Gibea, yn 1842, ac Eglwys St Catherin yn 1881.

Rhwng 1860 ac 1890 roedd poblogaeth y pentref wedi mwy na ddyblu. Adeiladwyd rhesi o derasau gan y cwmnïau gwaith ar gyfer eu gweithwyr. Roedd amrediad eang o siopau a gwasanaethau yn ffynnu yn yr ardal. Yn y 1920au talodd y gweithwyr lleol am adeilad Y Neuadd Gyhoeddus a agorwyd yn 1926 gyda sinema a seddau am 1,000 o bobl,a hefyd lolfa, llyfrgell ac ystafell biliards.

Ers dirywiad ei ddiwydiannau, mae Brynaman Uchaf wedi newid cryn dipyn, ond mae’r ysbryd cymunedol a ffynnai yn ei hanterth yn aros yn gryf. Mae Ysgol y Babanod a agorwyd yn 1926 wedi’i droi yn ganolfan gymunedol sef Canolfan Y Mynydd Du a agorodd yn 2003, ac sydd erbyn heddiw yn ganolbwynt y pentref.

Cefnbrynbrain

Pentref glofaol oedd Cefnbrynbrain yn ystod y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif, ond mae yna dystiolaeth am weithgarwch dynol yn gynharach na hyn ar y bryniau i’r gogledd o’r pentref. Er enghraifft, mae yna garneddau ar lethrau Twyn y Moch sy’n rhan o amlosgfan cyrff sydd yn mynd yn ôl tua 3,000 mlynedd i’r Oes Efydd, pan roedd yr hinsawdd yn llawer cynhesach ac yn denu cymunedau ffermio i’r ardal. Ar ben y mynydd gellir gweld llawer  meet o garneddau o’r Oes Efydd , efallai mannau claddu penaethiaid hynafol, wedi’u gosod ar ben y bryniau i oruchwylio'r cymunedau yn y dyffryn islaw.

Mae’r archeoleg werthfawr sydd ar gomin y mynydd yn cynnwys cytiau a chorlannau. Ganrifoedd yn ôl, arferai bugeiliaid wario tymor pori’r haf, o Fai tan Hydref, yn gofalu am eu defaid a’u gwyddau ar borfeydd y mynydd. Er bod yn ymarfer hyn wedi hir orffen, mae ffermio, y diwydiant hynaf yn yr ardal, yn dal yn bwysig gyda’r anifeiliaid yn pori ar borfeydd y mynydd pob haf.

Fe ddechreuodd y pentref dyfu wrth i lowyr a’u teuluoedd ddod i’r ardal ar gyfer gwaith yn y glofeydd lleol. Dr wedi diflannu nawr, ond roedd gan Gefnbrynbrain ei orsaf reilffordd ei hun a chapel Bedyddwyr gyda tho sinc, yn ogystal â’r rheilffordd oedd yn cysylltu'r ardal gyda Brynaman i’r gorllewin a Chwmtawe i’r dwyrain.

Pan gafodd y mapiau cyntaf eu gwneud o’r ardal ar ddechrau’r 19eg ganrif, roedd yr ardal yn anghysbell ac yn denau ei phoblogaeth. 200 o flynyddoedd yn ôl dim ond llawn dwrn o fythynnod a ffermydd gwasgaredig oedd yna, fel Llwyn y Moch, Y Ddolgam a Brynbrain. Enwyd y pentref ar ôl yr olaf o’r rhain.

Dyma lle ganwyd y diwydiannwr, o’r 19eg ganrif, John Jones, Brynbrain, oedd yn berson pwysig yn hanes y rhan uchaf o Ddyffryn Aman. Fe agorodd e lofeydd a mwyngloddiau  haearn, ac fe adeiladodd yr heolydd da cyntaf i gysylltu’r dyffryn i’r byd tu allan, gan agor lan yr ardal i ddatblygiad diwydiannol.

Rhosaman

Lleolir y pentref hwn ar ochr y maes glo caled. I’r gogledd mae comin agored y Mynydd Du, sydd tu allan i’r maes glo. I’r de mae comin Gwaun Cae Gurwen sydd wedi ei wedd newid gan ddegawdau o gloddio am lo. Mae rhan ohono wedi bod yn lleoliad ar gyfer cloddio glo brig ers  blynyddoedd bellach.

Mae’r dystiolaeth gynharaf o bredenoldeb dynoliaeth yn yr ardal ar y Mynydd Du, lle gellir gweld carneddau claddu o’r oes efydd ar nifer o’r copaon. Mae olion adfeilion cytiau ffermwyr canoloesol mewn llefydd cysgodol ar lethrau gwaelod y comin, yn ogystal â chorlannau muriau cerrig sych trawiadol ar hyd ochrau’r comin. Defnyddid y rhain gan fugeilied yn ddiweddar ar gyfer eu defaid.

Gweithgareddau Diwydiannol daniodd i dyfiant Rhosaman. Cyn y 19eg canrif roedd yr ardal yn rhostir agored, wedi ei groesi gan ychydig o lwybrau garw oedd yn mynd o’r Aman a Chwmtawe uchaf. Dim ond llawn dwrn o ffermydd oedd yn bodoli yno, fel Rhosaman, Tir Hen a Gorshelyg. Dechreuodd hyn newid gyda thyfiant y cloddio am lo a mwyngloddio haearn. Roedd y mentrwr lleol John Jones yn flaenllaw yn natblygiad y diwydiannau yma, ac erbyn yr 1830au gwasanaethid ei byllau ym Mrynaman a Rhosaman gan yr heol newydd a wnaeth adeiladu i’w cysylltu.

Erbyn diwedd y 19eg ganrif , ffurfiwyd  clwstwr o dyddynnod a bythynnod o gwmpas y man lle'r oedd heol John Jones yn croesi’r Afon Aman. Ar draws yr heol roedd pwll glo Rhosaman. O ddiwedd y 19eg ganrif, datblygwyd nifer o byllau glo eraill i’r dde o’r heol, fel Pyllau Blaen Cae Gurwen a Chwmteg. Gwasanaethir y rhain gan reilffordd roedd yn cysylltu Brynaman a Chwmtawe.

Fe ddaeth Rhosaman yn nodedig am ei fythynnod bach i’r glowyr, sydd wedi eu lleoli ar hyd ochr yr heol rhwng y rhostir noeth a’r domen gwastraff. Does dim llawer o olion diwydiant ar ôl heddiw, ond mae’n bosib gweld olion yr hen waith glo, y rheilffordd ac ambell fwthyn bach.

Yn 1924, Gwaith Glo Rhosaman oedd lleoliad un o'r damweiniau gwaethaf yng nglofeydd Dyffryn Aman, lle laddwyd 7 dyn mewn ffrwydrad ar yr wyneb. Mae plac yn cofnodi’r digwyddiad ar y safle.

Roedd y Parch Rhys Pryse (1807-1869) yn byw yng Ngorsto ger Rhosaman. Ef oedd mab-yng-nghyfraith John Jones, Brynbrain, a gweinidog Capel Annibynnol Cwmllynfell ac yna Gibea, Brynaman lle cafodd ei gladdu. Roedd yn bregethwr mawr ei barch, a phawb yn yr ardal yn ei adnabod,  arferai gyfansoddi ei bregethau yn aml ar gefn ceffyl ar y comin o gwmpas Rhosaman. Roedd, hefyd, yn fardd, yn seryddwr, yn glociwr, yn gosod esgyrn ac yn llysieuydd. Defnyddiwyd ei lyfr o 1849 ‘Y Llysieulyfr Teuluaidd’ yn y rhan fwyaf o’r ardal am flynyddoedd lawer ac roedd yn enwog mor bell at America.

Ystradowen

Cafodd y pentref ei enw o’i leoliad yn y dyffryn,' ystrad’ mewn Cymraeg, a’i leoliad yn agos i domen fawr sydd wedi’i galw'n’n Domen Owen ers canrifoedd. Mae’r domen siŵr o fod yn nodwedd naturiol wedi’i adael o’r Oes Ia diwethaf.

Yn ôl y chwedl, roedd y brenin Arthur a’i filwyr wedi hela'r Twrch Trwyth enwog yn yr ardal  hon.

Fel y pentrefi cyfagos, mae Ystradowen yn ddyledus i’r diwydiant cloddio glo caled a fuodd yn llewyrchus yn yr ardal o ddiwedd y 19eg ganrif hyd nes canol y 20fed ganrif.

DatblygoddYstradowen pan agorwyd pyllau glo Chwmllynfell a Henllys Vale, Bryn Henllys, Hendreforgan oedd ar Ben uchaf Ddyffryn Twrch ac ar ffin ddwyreiniol Sir Gaerfyrffin

Wrth i boblogaeth lofaol yr ardal dyfu, adeiladwyd Eglwys St Margaret (1900), Capel Bryn Seion (1897) ac ysgol y pentref (1915). O fewn cof, roedd llawer o siopau yn y pentref, yn cynnwys siopau losin, groser a chigydd yn ogystal â siop teiliwr a siop grydd. Ar ddiwedd yr 19eg ganrif roedd yna felin wlân yn Felin Fach, fyddai wedi bod yn gwneud gwlanen allan o wlân Y defaid lleol.

Roedd y gymuned lofaol yn ei hanterth erbyn y 1920au, a’r pyllau glo yn rhoi bywoliaeth i’r rhan fwyaf o ddynion y pentref ymhell i mewn i ail hanner yr 20fed ganrif. Caewyd y pyllau olaf yn ystod y 1960au cynnar.

Er bod y pyllau wedi cau a diflannu ers hydoedd, mae yna lawer o archeoleg ddiwydiannol yn bodoli yn yr ardal. Mae hen stac simnai pwll Henllys Vale ynsefyll o hyd  nes lan yn Nyffryn Twrch prydferth, yn agos i res o odynau calch mawr o diwedd Y 19eg ganrif. Llosgai’r odynnau galchfaen a ddeuai  mewn tram o’r chwareli oedd lan ar y mynydd uwchben.

Aelodau: 

Mae gan Cyngor Cymuned Cwarter Bach 14 aelod etholedig ar y mwyaf - yn cynrychioli ward Brynaman (5 aelod), Cwarter Bach (5 aelod), a Llynfell (4 aelod). Mae pob aelod yn gwasanaethu am 4 blynedd, a chynhelir yr etholiad nesaf ym Mai 2022.

Mae Clerc y Cyngor wedi ei apwyntio i'r swydd, nid ei ethol. Mae'r manylion i gysylltu ag ef ar y tudalen Cartref.

Mae'r Cynghorwr Sir presennol, hefyd, yn aelod etholedig o'r Cyngor Cymuned  yn un o”r 5 sy’n cynrychioli Ward Brynaman gyda hawliau llawn i bleidleisio. Mae'r manylion i gysylltu ag ef ar y dudalen ‘Links’.

Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy | accessibility statement